Mae arweinydd Llafur, Jeremy Corbyn, wedi dweud ei fod yn derbyn yr angen i fod yn fwy gofalus wrth ddefnyddio’r term ‘Seionist’ er mwyn osgoi unrhyw gyhuddiadau o wrth-semitiaeth.

Daw hyn ar ôl iddo wynebu rhagor o feirniadaeth am sylwadau a wnaeth bum mlynedd yn ôl wrth garfan o Balesteiniaid.

Bryd hynny roedd wedi cyhuddo grŵp o Seionistiaid Prydeinig o fod â dwy broblem.

“Yn gyntaf, does arnyn nhw ddim eisiau astudio hanes, ac yn ail, ar ôl byw yn y wlad yma ers amser hir, dydyn nhw ddim yn deall eironi Seisnig chwaith.”

‘Dim esgus’

Yn ôl yr AS Llafur Iddewig Luciana Berger, doedd dim esgus am sylwadau o’r fath.

“Maen nhw’n fy ngwneud i fel Iddewes Brydeinig falch deimlo nad oes croeso imi yn fy mhlaid fy hun,” meddai.

Mae AS Ceidwadol, Helen Grant, wedi gofyn i’r Comisiynydd Safonau Seneddol ymchwilio i’r sylwadau, sy’n “senoffobaidd a gwrth-Semitig” yn ei barn hi, ac mae’n cyhuddo Jeremy Corbyn o ddwyn anfri ar y Senedd a’i aelodau.

Dywed Jeremy Corbyn ei hun, fodd bynnag, ei fod yn defnyddio ‘Seionist’ yn ei ystyr gywir o rywun sy’n hyrwyddo Israel ac nid fel sarhad o Iddewon yn gyffredinol.

“Dw i’n fwy gofalus gyda sut dw i’n defnyddio’r term ‘Seionist’ bellach, oherwydd mae’r hyn a fu unwaith yn derm gwleidyddol wedi cael ei herwgipio’n gynyddol gan wrth-Semitwyr fel gair am Iddewon,” meddai.