Mae cyngor wedi dweud y byddan nhw’n bwrw mlaen gyda’u cynlluniau i orfodi nifer o  deithwyr i adael eu cartrefi yn ne Lloegr ar ol iddyn nhw fethu a dod i gytundeb.

Mae’n debyg bod  tua 200 o deithwyr, ynghyd a nifer o gefnogwyr, wedi cloi eu hunain i mewn i Dale Farm, yn Basildon, Essex wrth i feiliaid baratoi i glirio’r safle ar hen iard sborion.

Mae’r teithwyr wedi colli dadl gyfreithiol sydd wedi para degawd i ddatblygu’r safle.

Dywedodd arweinydd cyngor Basildon Tony Ball y byddai’r beiliaid yn cyrraedd y safle yn ddiweddarach er mwyn symud y teithwyr. Dywedodd y gallai gymryd hyd at wyth wythnos i’w symud.

Dywedodd ei fod yn siomedig iawn nad oeddan  nhw wedi llwyddo i ddod i gytundeb. Ond fe roddodd sicrhad y byddai popeth yn cael ei wneud i sicrhau bod y teithwyr yn cael eu symud mewn modd diogel a phroffesiynol.

Trafodaethau

Roedd y cyngor wedi gohirio eu cynlluniau i’w symud bore ma ar ol i’r preswylwyr ofyn am gynnal trafodaethau.

Ond death y trafodaethau i ben ar ol i’r cyngor gael ar ddeall bod y teithwyr yn ceisio gohirio symud o’r safle tan fis Tachwedd pan fydd cais cynllunio ynglyn a safle gerllaw yn cael ei drafod.

Dywedodd Mr Ball bod y mater yn ymwneud â thorri’r gyfraith a  “thegwch i bawb” a bod yn “rhaid gwneud cais cynllunio fel pawb arall.”

Roedd y teithwyr yn Dale Farm wedi ymateb yn ddig i honiadau mai dim ond protestwyr oedd ar ol ar y safle. Dywed Cyngor Basildon eu bod wedi cynnig llety i’r teuluoedd sydd yn cael eu gorfodi i symud.