Mae cyn-Brif Weinidog yr Alban, Alex Salmond, wedi gwadu cyhuddiadau o gamymddygiad rhywiol yn ei erbyn.

Mae papur newydd The Daily Record wedi adrodd bod honiadau wedi cael eu cyfeirio at yr heddlu am ei ymddygiad tuag at  ddau aelod o staff yn 2013, tra roedd wrth y llyw.

Mewn datganiad, mae Alex Salmond yn gwadu’r cyhuddiadau ac yn dweud ei fod wedi cael ei atal rhag eu herio’n briodol gan broses gwynion Llywodraeth yr Alban.

Mae Alex Salmond wedi dechrau camau cyfreithiol i herio’r broses gwynion. Dywedodd nad yw wedi cael caniatâd i weld y dystiolaeth yn ei erbyn.

Dywedodd Llywodraeth yr Alban ei bod yn hanfodol ymchwilio’n drylwyr i unrhyw honiadau o gamymddygiad rhywiol. Ychwanegodd y byddai’n amddiffyn ei pholisi yn gadarn.

Nid yw Heddlu’r Alban wedi gwneud sylw am adroddiad y Daily Record.