Mae teclyn newydd wedi cael ei ddatblygu a allai helpu clinigwyr ddarogan os ydy claf yn debygol o ddatblygu cancr.

CTS5 (Sgôr Triniaeth Glinigol wedi pum mlynedd) yw enw’r teclyn ac yn benodol mae’n medru helpu rhagweld os bydd cancr y fron yn ailymddangos mewn rhan arall o’r corff.

Cyfrifiannell ar lein yw CTS5, ac mae’n bosib y gallai helpu meddygon benderfynu os oes angen ymestyn hyd triniaeth rhai cleifion – unigolion oedd ar un adeg â chancr.

Ymchwilwyr yn Sefydliad Ymddiriedolaeth GIG (Gwasanaeth Iechyd Gwladol) Marsden a Phrifysgol Llundain, oedd yn gyfrifol am ddatblygu’r dechnoleg.

Penderfyniadau

“Mae angen arbenigedd ar glinigwyr, a’r teclynnau gorau,” meddai’r Athro Mitch Dowsett, un o arweinwyr yr ymchwil.

“Mae’r teclynnau yma yn eu helpu i wneud penderfyniadau hollbwysig ynglŷn â thriniaeth cleifion – penderfyniadau a all wneud gwahaniaeth i ansawdd bywyd claf.

“Mae’r teclyn yma yn defnyddio gwybodaeth sydd eisoes yn cael ei gasglu ym mhob claf, ac felly gallai gael ei fabwysiadu yn hawdd ledled y Deyrnas Unedig a’r byd.”