Yn hytrach na defnyddio cyffuriau gwrthfiotig, dylwn fod yn defnyddio mêl  i fynd i’r afael â phewch.

Dyna yw’r cyngor meddygol a fydd yn cael ei fabwysiadu yn ganllaw gan y Sefydliad Cyhoeddus tros Iechyd a Gofal Rhagorol (NICE) ac Iechyd Cyhoeddus Lloegr.

Bach iawn yw effaith cyffuriau gwrthfiotig ar symptomau, yn ôl arbenigwyr, ac mewn gwirionedd mae’n debyg eu bod yn medru achosi mwy o sgil effeithiau.

Hefyd, er bod y fath gyffuriau yn effeithiol wrth fynd i’r afael ag achosion o beswch difrifol, mae yna bryderon eu bod yn cael eu camddefnyddio.

Felly mêl -a meddyginiaeth gan fferyllwyr – yw’r ateb i bobol â phesychiadau cyffredin, yn ôl meddygon.

Cyffuriau

“Os oes gan rywun anwyd, neu os ydyn nhw’n peswch, fe fyddem yn disgwyl iddyn nhw wella o fewn dwy neu dair wythnos,” meddai Dr Tessa Lewis, o’r grŵp sy’n gosod y canllawiau.

“Yn yr achosion yna, does dim angen cyffuriau gwrthfiotig. Mae pobol yn medru gwirio eu symptomau ar NHS Choices neu Galw Iechyd Cymru.

“Neu maen nhw’n medru gofyn am gyngor wrth eu fferyllydd.”