Mae Heddlu West Midlands wedi cyhoeddi darlun artist o ddyn maen nhw’n chwilio amdano mewn perthynas ag achos o geisio treisio merch 11 oed yn Birmingham.

Digwyddodd yr ymosodiad wrth i’r ferch gerdded drwy barc yn ardal Solihull y ddinas brynhawn Gwener, Mehefin 29.

Cafodd y ferch anaf wrth i’r ymosodwr droi cyllell arni, a derbyniodd hi driniaeth yn yr ysbyty.

Mae’r heddlu wedi bod yn gwylio gwerth oriau o ddeunydd camerâu cylch-cyfyng ac wedi ymweld â mwy na 1,300 o gartrefi yn yr ardal fel rhan o’u hymchwiliad.

Cafodd tri o bobol eu harestio, ond maen nhw bellach wedi’u rhyddhau heb gymryd camau pellach yn eu herbyn.

Darlun

Mae’r heddlu wrthi’n creu darlun seicolegol o’r ymosodwr, sy’n cael ei ddisgrifio fel dyn gwyn o gorffolaeth gyhyrog, a chanddo wallt brown sy’n llwydo, llygaid glas a dwylo mawr.

Roedd ganddo fe gi sbaniel King Charles gwyn â darnau brown ar ei glustiau a’i gorff.

Mae’r heddlu wedi apelio am wybodaeth, gan ddweud eu bod yn awyddus i “ddod â’r dyn peryglus hwn o flaen ei well”.