Mae deiseb sydd wedi’i chyhoeddi ar y we yn erbyn y penderfyniad i symud cerflun o un o’r merched mwyaf adnabyddus yn y frwydr tros sicrhau’r bleidlais i fenywod, wedi denu bron i 50,000 o lofnodion.

Cafodd y ddeiseb ei chyhoeddi ychydig dros ddiwrnod yn ôl.

Fe fu’r cerflun o Emmeline Pankhurst yn ei le yn Tower Gardens drws nesaf i Dŷ’r Arglwyddi ers 1930, ond mae cynlluniau ar y gweill i’w symud i Goleg Regents, lle na fyddai gan y cyhoedd fynediad iddo.

Yn ôl Jacquie Hawkins, awdur y ddeiseb ar wefan 38 Degrees, “Fe fyddai’n amharchus i symud y cerflun o lygaid y cyhoedd ar adeg canmlwyddiant y bleidlais i ferched.

“Rydym wedi gwneud cymaint o gynnydd ym maes hawliau merched, ond byddai symud arwres ffeministaidd fel Pankhurst i ffwrdd o galon gwleidyddiaeth y DU yn gam yn ôl.”

Fe fydd y ddeiseb yn cael ei chyflwyno i Gyngor Dinas Westminster gan griw o bobol wedi’u gwisgo fel rhai o arwyr y frwydr tros y bleidlais i ferched.