Mae’r Deyrnas Unedig wedi wynebu heriau mwy na Brexit, ac fe fyddwn ni’n dod trwy’r broses, meddai’r Ysgrifennydd Tramor, Jeremy Hunt.

Fe ddaw ei sylwdaau wedi i lythyr gan NHS Providers gael ei ryddhau i’r wasg. Maen nhw’n cynhyrchioli gwasanaethau ysbytai ac ambiwlans, ac yn rhybuddio y gallai ysbytai fod yn rhedeg allan o feddyginiaethau os na fydd dêl Brexit yn cael ei tharo rhwng Llywodraeth Prydain a’r Undeb Ewropeaidd.

Mae Prif Weithredwr  NHS Providers, Chris Hopson, yn ei lythyr yn rhagweld y gallai diffyg cytundeb Brexit fygwth “cadwyni’r byd fferyllol” a rhoi swyddi rhag o weithwyr y Gwasanaeth Iechyd yn y fantol”.

Ond ar raglen Today, Radio 4, heddiw, mae Jeremy Hunt wedi cyfadde’ bod y posibilrwydd o beidio taro bargen “ddim yn amhosib”, ac fe aeth yn ei flaen i rybuddio y byddai methu â tharo bargen nag Ewrop yn “ofnadwy o ran prosiect Ewrop” ac yn debyg i “ysgariad bler a hyll”.

Er hyn, meddai, fe fydd y Deyrnas Unedig yn gallu ffynnu – oherwydd ei bod wedi bod trwy bethau gwaeth yn y gorffennol.

“Fe ddown ni o hyd i ffordd allan o hyd,” meddai. “Fe fyddwn ni’n goroesi ac yn ffynnu.

“Rydw i’n wyliadwrus ond yn optimistaidd y bydd Prydain yn sicrhau Brexit yn y diwedd. Mae’r sialens sy’n wynebu gwledydd Ewrop gyfan yn un sy’n rhwygo’r galon oddi wrth y pen. Yn y galon, maen nhw eisiau rhoi dêl dda i Brydain, oherwydd mae’n bwysig…

“Ond yn eu pennau, maen nhw’n poeni os y byddan nhw’n rhoi dêl dda i Brydain, y bydd gwledydd eraill yn dilyn esiampl Prydain.”