Mae’r Prif Arolygydd Carchardai, Peter Clarke,  wedi cyhuddo’r Weinyddiaeth Gyfiawnder o “gysgu wrth y llyw” drwy ganiatáu i’r amodau yng ngharchar Birmingham i ddirywio gymaint.

Daw sylwadau Peter Clarke ar ôl iddo gyhoeddi asesiad damniol o’r carchar.

Dywed ei adroddiad bod staff wedi bod yn cysgu neu wedi eu cloi mewn swyddfeydd yn ystod ei arolwg o’r carchar lle daeth ar draws budreddi a thrais “erchyll”.

Roedd cymaint o ofn gan rai carcharorion fel nad oedan nhw’n teimlo’n ddiogel tu ôl i ddrysau eu celloedd a oedd wedi’u cloi.

Dywedodd Peter Clarke yn ei adroddiad bod “diffyg rheolaeth” yn y carchar a bod y defnydd o sylweddau anghyfreithlon yn gyffredin.

Mewn cyfweliad gyda rhaglen Today ar BBC Radio 4 dywedodd Peter Clarke nad oedd yn deall sut yr oedd yr amodau yn y carchar wedi dirywio cymaint o fewn 18 mis.

“Camau brys”

Daw hyn ar ôl y cyhoeddiad y bydd carchar preifat Birmingham yn cael ei roi yn ôl yng ngofal y Llywodraeth ar ôl i weinidogion benderfynu bod angen cymryd “camau brys” i fynd i’r afael a’r methiannau yn y carchar.

Mewn cam anarferol iawn, fe fydd y Weinyddiaeth Gyfiawnder yn cymryd rheolaeth o garchar Birmingham gan G4S am gyfnod cychwynnol o chwe mis.

Dywed yr adran bod y gwasanaeth carchardai wedi bod yn gweithio gyda G4S am gyfnod hir mewn ymdrech i godi safonau yn dilyn pryderon am ddiogelwch staff a charcharorion.

Fel rhan o’r cynllun i godi safonau fe fydd un o lywodraethwyr gorau’r gwasanaeth yn arwain y carchar, bydd 30 o swyddogion ychwanegol, a bydd 300 yn llai o lefydd ar gyfer carcharorion yno. Mae swyddogion wedi pwysleisio na fydd unrhyw gost ychwanegol i’r trethdalwr.

Dywedodd arweinydd y Blaid Lafur Jeremy Corbyn bod yr argyfwng yn “dangos pa mor gibddall yw’r polisi o breifateiddio gwasanaethau.”

“Heriau eithriadol”

Mae G4S wedi croesawu’r camau diweddaraf gan ddweud bod y carchar yn wynebu “heriau eithriadol”.

Yng ngharchar Birmingham yn 2016 cafwyd un o’r terfysgoedd gwaethaf mewn carchar yn y Deyrnas Unedig am fwy nag 20 mlynedd.

Roedd y trafferthion wedi arwain at 500 o garcharorion yn cael eu rhyddhau o’u celloedd, tra bod costau atgyweirio yn dilyn y digwyddiad wedi costio mwy na £6 miliwn.