Mae nifer y babis sy’n marw oherwydd achosion anesboniadwy wedi cynyddu am y tro cyntaf ers tair blynedd, yn ôl ffigurau newydd.

Fe fu 219 o farwolaethau oherwydd Syndrom Marwolaeth Sydyn Babanod (SIDS) neu heb reswm esboniadwy yng Nghymru a Lloegr yn 2016, o’i gymharu â 195 yn y flwyddyn flaenorol.

Dyma’r nifer uchaf ers 2013 pan fu 252 o farwolaethau.

Er hynny, mae gostyngiad wedi bod yn nifer y babis sy’n marw o achosion anesboniadwy yn ystod y degawd diwethaf gyda’r nifer yn gostwng 23.2% ers 2006.

Mae’r elusen The Lullaby Trust, sy’n codi ymwybyddiaeth am SIDS, yn dweud eu bod yn “bryderus iawn” am y cynnydd diweddar.

“Pwysau ar gyllidebau”

Dywedodd Francine Bates, prif weithredwr The Lullaby Trust: “Mae cyfraddau SIDS ar eu huchaf yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig ac rydym yn poeni y bydd y pwysau ar gyllidebau iechyd cyhoeddus awdurdodau lleol a’r cynnydd yn nifer y teuluoedd sy’n wynebu byw mewn tlodi yn arwain at gynnydd arafach [wrth godi ymwybyddiaeth] neu hyd yn oed yn arwain at gynnydd yn nifer y marwolaethau.”

Mae’r ffigurau, sy’n cael eu cyhoeddi gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol, yn cynnwys marwolaethau ymhlith plant o dan flwydd oed o ganlyniad i SIDS a lle nad oes achos meddygol yn cael ei gofnodi.

Nid yw’n glir beth sy’n achosi SIDS ond credir bod ysmygu yn ystod beichiogrwydd, dod i gysylltiad â mwg sigaréts, bod yn rhy gynnes neu gysgu mewn amgylchedd sydd ddim yn ddiogel, yn cael eu cysylltu â marwolaethau anesboniadwy ymhlith babis.