Mae disgwyl i ddyn 29 oed fynd gerbron llys heddiw ar gyhuddiad o geisio llofruddio aelodau o’r cyhoedd a swyddogion yr heddlu ger y Senedd yn San Steffan.

Mae Salih Khater, o Stryd Highgate, Birmingham yn wynebu dau gyhuddiad o geisio llofruddio yn dilyn y digwyddiad y tu allan i’r Senedd ddydd Mawrth diwethaf (14 Awst).

Honnir bod Salih Khater, sy’n ddinesydd Prydeinig a gafodd ei eni yn y Sudan, wedi gyrru ei gerbyd at gerddwyr a seiclwyr cyn gwyro’r car yn fwriadol tuag at swyddogion yr heddlu.

Roedd ei gerbyd wedi taro rhwystrau diogelwch tu allan i Balas Westminster cyn iddo gael ei arestio.

“Brawychiaeth”

Fe fydd erlynwyr yn trin yr achos fel ymosodiad brawychol oherwydd y modd cafodd yr ymosodiad honedig ei gynnal, y bobl a gafodd eu targedu a’r lleoliad adnabyddus, meddai Heddlu’r Met.

Cafodd tri o bobol eu trin yn yr ysbyty, am anafiadau sydd ddim yn peryglu eu bywyd, ar ôl y digwyddiad.

Mae disgwyl i Salih Khater fynd gerbron Llys Ynadon Westminster heddiw (dydd Llun, Awst 20).