Fe fydd carchar preifat Birmingham yn cael ei roi yn ôl yng ngofal y Llywodraeth ar ôl i weinidogion benderfynu bod angen cymryd “camau eithafol” i fynd i’r afael a methiannau yn y carchar.

Mewn cam anarferol iawn, fe fydd y Weinyddiaeth Gyfiawnder yn cymryd rheolaeth o garchar Birmingham gan G4S am gyfnod cychwynnol o chwe mis.

Dywed yr adran bod y gwasanaeth carchardai wedi bod yn gweithio gyda G4S am gyfnod hir mewn ymdrech i godi safonau yn dilyn pryderon am ddiogelwch staff a charcharorion.

Ond mae swyddogion wedi dod i’r casgliad na fydd y carchar yn gallu gwneud cynnydd digonol heb gymorth ychwanegol.

Asesiad damniol

Daeth y manylion i’r amlwg ar ôl i’r Prif Arolygydd Carchardai Peter Clarke gyhoeddi asesiad damniol o’r carchar.  Yn dilyn ymweliad annisgwyl ganddo a ddaeth i ben yn gynharach yn y mis, roedd Peter Clarke wedi mynnu bod gweinidogion yn gweithredu ar frys.

Roedd yr Ysgrifennydd Cyfiawnder David Gauke a’r Gweinidog Carchardai Rory Stewart wedi ymweld â’r carchar yn ddiweddar ac wedi penderfynu mai rhoi’r carchar yng ngofal y Llywodraeth fyddai’r ffordd orau ymlaen er mwyn gwneud newidiadau a gwelliannau angenrheidiol ar frys.

“Camau eithafol”

Dywedodd Rory Stewart: “Mae’r hyn rydan ni wedi’i weld ym Mirmingham yn annerbyniol ac mae’n glir bod angen cymryd camau eithafol er mwyn gwneud y gwelliannau sydd eu hangen.”

Ychwanegodd bod nifer o garchardai preifat ar draws y wlad sy’n cael eu rhedeg yn dda ond bod Birmingham yn wynebu “heriau arbennig.”

O ddydd Llun, fe fydd carchar Birmingham yn cael ei roi yng ngofal y Gwasanaeth Carchardai am chwe mis ond fe allai’r cyfnod yma gael ei ymestyn os nad yw gweinidogion yn teimlo bod digon o gynnydd wedi cael ei wneud.

Fe fydd un o lywodraethwyr gorau’r gwasanaeth yn arwain y carchar, bydd 30 o swyddogion ychwanegol a bydd 300 yn llai o lefydd ar gyfer carcharorion yno. Mae swyddogion wedi pwysleisio na fydd unrhyw gost ychwanegol i’r trethdalwr.

“Heriau eithriadol”

Mae G4S wedi croesawu’r camau diweddaraf gan ddweud bod y carchar yn wynebu “heriau eithriadol”.

Yng ngharchar Birmingham yn 2016 cafwyd un o’r terfysgoedd gwaethaf mewn carchar yn y Deyrnas Unedig am fwy nag 20 mlynedd.

Roedd y trafferthion wedi arwain at 500 o garcharorion yn cael eu rhyddhau o’u celloedd, tra bod costau atgyweirio yn dilyn y digwyddiad wedi costio mwy na £6 miliwn.