Mae dyn yn ei 60au wedi marw ar ôl cael ei drywanu yn ne ddwyrain Llundain.

Cafodd y dyn ei gludo i’r ysbyty o’r safle yn Catford yn oriau man bore dydd Sadwrn (18 Awst) ond bu farw’n fuan wedyn.

Cafodd yr heddlu eu galw wedi adroddiadau bod dyn wedi cael ei drywanu mewn eiddo yn Heol Ringstead.

Nid yw’r dyn wedi cael ei adnabod yn ffurfiol hyd yn hyn ond mae’r heddlu yn y broses o gysylltu â’i deulu.

Fe fydd archwiliad post mortem yn cael ei gynnal, meddai Scotland Yard.

Nid oes unrhyw un wedi cael eu harestio hyd yn hyn.