Mae un o sylfaenwyr cwmni ffasiwn Superdry wedi dweud y bydd yn rhoi cefnogaeth ariannol i ymgyrch Pleidlais y Bobol.
Mae’r grŵp yn ymgyrchu i geisio cael refferendwm ar gytundeb terfynol Brexit.
Yn ôl adroddiadau, mae’r miliwnydd Julian Dunkerton wedi rhoi £1 miliwn i’r grŵp.
“Cyflafan”
Wrth ysgrifennu yn y Sunday Times, dywedodd bod y cyhoedd yn gwybod y byddai Brexit yn “gyflafan”.
“Dw i’n rhoi ychydig o fy arian i ymgyrch Pleidlais y Bobol achos dw i’n gwybod bod gynnon ni gyfle gwirioneddol i newid hyn,” meddai.
Ychwanegodd ei fod eisiau sicrhau bod pobol yn cael yr hawl i bleidleisio ar unrhyw gytundeb Brexit.
Roedd Julian Dunkerton yn un o sylfaenwyr Superdry a gafodd ei sefydlu yn 1985 ac a ddechreuodd ar stondin mewn marchnad yn Cheltenham.
“Petai Brexit wedi digwydd 20 mlynedd yn gynharach, fyddai Superdry erioed wedi bod y llwyddiant byd-eang y mae rŵan,” meddai.