Mae Nigel Farage wedi cyhoeddi ei fod yn dychwelyd i brif lwyfan gwleidyddiaeth gwledydd Prydain, a hynny fel rhan o ymgyrch i danseilio a dileu cynllun Brexit Theresa May.

Mae cyn-arweinydd UKIP yn dweud ei fod “yn ôl ar y lôn”, yn cymryd mewn taith fws gan y mudiad ‘Leave Means Leave’.

Mewn erthygl ym mhapur newydd The Daily Telegraph heddiw (dydd Sadwrn, Awst 18), mae’n dweud ei fod wedi penderfynu gweithredu eto wedi iddi ddod yn glir fod ” y dosbarth gwleidyddol yn San Steffan” yn benderfynol o anwybyddu canlyniad refferendwm 2016 i adael yr Undeb Ewropeaidd.

“Dros y misoedd diwethaf, ac yn sict wedi’r brad yn Chequers, mae degau o bobol wedi fy stopio ar y stryd a gofyn: ‘Pryd ydach chi’n dod yn ôl?'” meddai Nigel Farage yn ei erthygl.

“Wel, dyma’ateb. Dw i’n f’ôl.”