Mae House of Fraser wedi ymddiheuro i’w cwsmeriaid ar ôl canslo pob archeb ar-lein.

Dywedodd y cwmni eu bod nhw wedi canslo pob archeb sydd heb gael eu hanfon at gwsmeriaid yn barod ac y byddan nhw’n ad-dalu’r gweddill.

Daw’r camau diweddaraf ar ôl i wefan y gadwyn siopau gael ei dynnu oddi ar y we yn dilyn cwynion gan gwsmeriaid am oedi cyn i’w harchebion gyrraedd ar ôl i’r cwmni gael ei brynu gan Sports Direct.

Mae’n debyg mai gwraidd y broblem yw anghydfod yn ymwneud a gweithwyr mewn warws.

Dywedodd House of Fraser eu bod nhw wedi gweld “oedi sylweddol” wrth anfon archebion ar-lein ac o ganlyniad wedi penderfynu canslo pob archeb.

Roedd Sports Direct wedi prynu’r cwmni gan y gweinyddwyr yn gynharach y mis hwn ar ol i House of Fraser fynd i drafferthion.