Mae eithafwr asgell dde sydd wedi’i gael yn euog o baratoi gweithredoedd brawychol, wedi’i garcharu am 12 mlynedd.

Roedd Peter Morgan, 35, wedi dechrau creu dyfais ffrwydrol gyda’r potensial o achosi anafiadau “ofnadwy”, pan gafodd ei ddal gydag offer creu bojmiau yn ei gartref yn ninas Caeredin.

Fe glywodd y llys fel yr oedd wedi bod yn casglu deunydd a llenyddiaeth hiliol, neo-Natsiadd a gwrth-Fwslimaidd dros gyfnod o bum mlynedd.

“Mae’r cyhuddiadau yn eich erbyn yn bygwth diogelach y cyhoedd,” meddai’r barnwr, yr Arglwydd Boyd. “Maen nhw hefyd yn bygwth ein gwerthoedd fel cymdeithas, ein democratiaeth a’n hurddas fel pobol.

“Mae gan bawb yr hawl i bob un o’r pethau hynny, beth bynnag eu hil na’u crefydd.”

Fe ddedfrydodd Peter Morgan i 15 mlynedd, gyda deuddeg o’r rheiny i gael eu treulio dan glo, a’r tair blynedd olaf ar drwydded.