Mae’r heddlu sy’n ymchwilio i dân eithin yng ngogledd Lloegr, wedi rhyddhau llun o ddyn y maen nhw’n awyddus i siarad ag o.

Roedd y dyn yn teithio mewn car Peugeot du, rhif cofrestru MC16 ZNV, a gafodd ei weld yn ardal y tân yn Winter Hill ddiwedd mis Mehefin.

Mae Heddlu Lancashire eisoes wedi siarad â gyrrwr y cerbyd fel rhan o’r ymchwiliad, ond maen nhw’n trio dod o hyd i’r teithiwr.

Fe gafodd dau ddyn, 22 a 20 oed, eu harestio ar amheuaeth o gynnau’r tân, ond fe gawson nhw eu rhyddhau yn ddiweddarach wrth i’r ymchwiliad fynd rhagddo.