Mae swyddogion heddlu yng nghanolbarth Lloegr, yn chwilio am walabi sydd wedi dianc – wedi i bobol weld y creadur mewn archfarchnad.

Mae Heddlu Swydd Stafford yn dweud eu bod wedi derbyn galwad gan aelod o’r cyhoedd wedi i’r walabi gerdded i mewn i Sainsbury’s yn Wombourne tua 9.20yh nos Fercher (Awst 15).

Y gred ydi fod yr anifail wedi dianc o Barc Swoleg yn Bobbington – ddwy filltir o’r siop.

Mae negeseuon yr heddlu ar wefan Twitter wedi bod yn rhai ysgafn, wrth iddyn nhw adael i’r cyhoedd wybod am y walabi sydd ar ffo. “Mae’n beryg ei bod naid ar y blaen i ni!” ydi un. Mewn neges arall, maen nhw’n addo “neidio at y gwaith” o’i dal.