Mae’r BBC wedi cyhoeddi na fydd yn apelio ar ôl colli achos yn yr Uchel Lys a gafodd ei gyflwyno gan Syr Cliff Richard.

Roedd y cerddor 77 oed wedi dwyn yr achos yn erbyn y gorfforaeth yn dilyn eu darllediad o gyrch ar ei gartref yn Sunningdale, Berkshire ym mis Awst 2014. Roedd y BBC wedi anfon hofrenyddion i ffilmio’r cyrch gan Heddlu De Swydd Efrog ar ei gartref.

Fe ddyfarnodd barnwr yn yr Uchel Lys bod y BBC wedi amharu ar breifatrwydd y cerddor a chafodd iawndal o £210,000. Roedd y barnwr hefyd wedi dyfarnu na ddylai’r BBC gael apelio yn erbyn y dyfarniad.

Dywedodd y BBC heddiw y byddai apelio yn erbyn y dyfarniad yn arwain at gostau cyfreithiol sylweddol ac yn peri rhagor o loes i’r cerddor.

Ychwanegodd y gorfforaeth mewn datganiad bod y BBC yn bwriadu ysgrifennu at y Twrne Cyffredinol yn galw arno “i ystyried adolygiad o’r gyfraith mewn achosion fel hyn,  i ddiogelu’r hawl i adrodd am ymchwiliadau troseddol yn briodol ac yn deg, ac i gyhoeddi enw’r person sy’n cael eu hymchwilio.”

Pwysleisiodd hefyd bod “rhyddid y wasg yn y fantol fan hyn” ac y dylai’r Senedd benderfynu ar y mater.

“Gwersi i’w dysgu”

Mae’r BBC wedi ymddiheuro unwaith eto wrth Syr Cliff Richard gan ddweud bod “gwersi i’w dysgu” am y modd yr oedd y BBC wedi adrodd y stori ac y byddai’n “ystyried yn ofalus” sut fyddai’n mynd ati i adrodd straeon o’r fath yn y dyfodol.

“Rydym yn cydnabod bod yna bethau oedd yn anghywir – er bod y ffeithiau a gafodd eu hadrodd yn gywir.”

Dywedodd llefarydd ar ran Cliff Richard bod y cerddor yn croesawu’r ffaith nad oedd y BBC yn bwriadu apelio “yn enwedig gan fod y barnwr wedi dyfarnu nad oedd unrhyw sail” dros wneud hynny.

“Mae Syr Cliff yn gobeithio bod unrhyw faterion eraill yn cael eu datrys mor fuan â phosib,” meddai’r llefarydd.

Ni chafodd y cerddor ei arestio na’i gyhuddo yn ystod ymchwiliad yr heddlu yn dilyn honiadau gan ddyn iddo gael ei gam-drin gan Cliff Richard pan oedd yn blentyn yn 1985.