Fe fydd dyn yn mynd o flaen ei well wedi’i gyhuddo o lofruddio ei fab wyth wythnos oed ddwy flynedd yn ôl.

Fe gafodd Tyrone Boudabes ei gludo i’r ysbyty yn diodde’ o anafiadau heb eglurhad, ar Fedi 16, 2016. Bu farw ar Fedi 20.

Mae Abdoul Boudabes, 39, wedi’i gyhuddo o lofruddio’r babi bach trwy ei ysgwyd, ac mae wedi ymddangos gerbron yr Old Bailey heddiw (dydd Mercher, Awst 15) i bledio’n ddieuog i’r cyhuddiad.

Mae Abdoul Boudabes, o Plumstead yn ne-ddwyrain Llundain, wedi’i ryddhau ar fechniaeth cyn y bydd yn sefyll ei brawf ar Dachwedd 19.