Mae lefel chwyddiant wedi cynyddu am y tro cyntaf ers mis Tachwedd y llynedd.

Fe gododd y Mynegai Prisiau Defnyddwyr (Consumer Price Index) i 2.5% yn ystod mis Gorffennaf, ar ôl iddo fod ar 2.4% y mis blaenorol.

Yn ôl arbenigwyr, costau trafnidiaeth sy’n bennaf gyfrifol am y cynnydd, ynghyd â phrisiau rhai gemau cyfrifiadurol.

Er hyn, mae yna ostyngiad wedi bod ym mhrisiau dillad merched a rhai gwasanaethau ariannol.

Er gwaetha’r cynnydd, mae’r bunt wedi aros yn ei hunfan, gan gadw at 1.27 yn erbyn y doler a 1.12 yn erbyn yr euro.