Mae dyn wedi ymddangos gerbron llys wedi’i gyhuddo o lofruddiaeth, wedi i weddillion dynol gael eu codi yn Paisley yn yr Alban.

Fe gafodd Kevin Bishop, 32, ei riportio ar goll ddydd Sadwrn, Awst 4, ac fe gadarnhawyd ei farwolaeth gan yr heddlu ddydd Mawrth.

Mae David Collins, 46, wedi’i gyhuddo o lofruddiaeth, ac fe ymddangosodd mewn gwrandawiad preifat heddiw yn Llys Sirol Paisley.

Mae’r achos yn mynd i gael ei ymchwilio ymhellach, ac mae disgwyl iddo ddychwelyd i’r llys yr wythnos nesaf.