Dylid bod yn “wyliadwrus” o sigaréts electronig yn ôl gwyddonwyr, gan fod astudiaeth newydd yn awgrymu eu bod yn medru niweidio celloedd yr ysgyfaint.

Dyfeisiau electronig yw sigaréts electronig sy’n medru cael eu hysmygu fel sigaréts arferol, ond sy’n rhyddhau anwedd yn hytrach na mwg.

Ac yn ôl astudiaeth gan dîm o Brifysgol Birmingham, mae’r anwedd yma yn llai niweidiol.

Ond, mae’r ymchwil hefyd yn dangos bod yr anwedd yn medru llidio celloedd yr ysgyfaint, a’n medru achosi effeithiau tebyg i fwg.

Diogel?

“Maen nhw’n fwy diogel o ran risg canser,” meddai’r Athro David Thickett, prif awdur yr astudiaeth.

“Ond os wenwch chi eu hysmygu am 20 i 30 blynedd, a bod hynny’n achosi problemau â’ch ysgyfaint, rhaid i ni wybod am hynny.”

“Dw i ddim yn credu bod sigaréts electronig yn fwy niweidiol na sigaréts arferol. Ond dylwn gwestiynu os ydyn nhw mor saff ag yr ydyn yn cael ein hannog i gredu.”