Mae dyn wedi cael ei arestio ar ôl i gar blymio mewn i rwystrau concrit tu allan i adeiladau’r Senedd yn Llundain.

Yn ôl heddlu Scotland Yard, mae sawl person wedi cael eu hanafu.

Cafodd heddlu arfog eu hanfon i’r ardal, ac mae lluniau ar gyfryngau cymdeithasol yn dangos unigolyn yn cael ei dywys o’r car mewn gefynnau llaw.

Mae strydoedd Parliament Square, Millbank a Victoria Tower Gardens wedi eu cau, wrth i’r gwasanaethau brys ddelio â’r sefyllfa.

“Am 7.37 heddiw mi wnaeth car wrthdaro â rhwystrau y tu allan i adeiladau’r Senedd,” meddai Heddlu Metropolitan ar Twitter.

“Cafodd gyrrwr gwrywaidd y car ei ddal gan swyddogion a oedd yno. Mae sawl pedestriad wedi cael eu hanafu. Mae swyddogion yn parhau i fod yno.

“Wnawn ni ddatgelu rhagor pan fydd modd gwneud hynny.”