Mae Cadeirydd y Blaid Geidwadol wedi galw ar Boris Johnson i ymddiheuro ar ôl iddo wneud sylwadau dilornus am ferched Mwslimaidd sy’n gwisgo burkas.

Daw’r alwad gan Brandon Lewis ar ôl i’r cyn-Ysgrifennydd Tramor gyhoeddi darn yn y Daily Telegraph ddoe (dydd Llun, Awst 7), lle mae’n dweud bod y dilledyn yn edrych yn “rhyfedd” a “thwp”.

Mae merched sy’n gwisgo burkas hefyd yn edrych yn debyg i flychau post neu ladron banc, meddai wedyn.

“Ffiaidd”

Ers i’r erthygl gael ei chyhoeddi, mae Boris Johnson wedi derbyn tipyn o feirniadaeth ar y radio a’r cyfryngau cymdeithasol.

Yn ôl y gweinidog yn y Swyddfa Dramor, Alistair Burt, wrth raglen Today ar BBC Radio 4 y bore yma, mae’r sylwadau yn rhai “ffiaidd”.

Yn ymateb i’w sylw ar y wefan gymdeithasol Twitter wedyn roedd Brandon Lewis, a ddywedodd ei fod yn “cytuno” â’r gweinidog

“Dw i’n cytuno ag Alistair Burt,” meddai. “Dw i wedi gofyn i Boris Johnson ymddiheuro.”

Dyw Boris Johnson ddim wedi gwneud sylw ar y mater eto.