Mae gan un ym mhob 12 plismon swydd arall, yn ôl ymchwil newydd.

Daw’r ffigwr hwn o arolwg a gafodd ei gynnal gan Ffederasiwn Heddlu Cymru a Lloegr, a wnaeth holi dros 27,000 o swyddogion.

Mae gan blismyn berffaith hawl i gymryd ail swydd ar yr amod eu bod yn cael caniatâd gan eu llu.

Ymhlith y rhai mwya’ poblogaidd, mae gyrru tacsi, ffotograffiaeth, garddio a gweithio fel plymar.

Y ffigyrau

Mae’r arolwg diweddara’ gan ffederasiwn yr heddlu yn dangos bod gan 7.8% o swyddogion yr heddlu yng Nghymru a Lloegr ail swydd, o gymharu â 6.3% y llynedd.

Roedd bron hanner (44.8%) y rheiny a ymatebodd i’r arolwg yn pryderu am eu sefyllfa bron pob dydd, tra bo 11.8% yn dweud nad oes ganddyn nhw ddigon o arian i dalu am nwyddau angenrheidiol.

Roedd 3.8% wedyn yn gorfod cael benthyciad o leia’ un waith y flwyddyn er mwyn sicrhau bod ganddyn nhw arian wrth-law.

“Pryderus”

Yn ôl John Apter, cadeirydd Ffederasiwn Heddlu Cymru a Lloegr, mae’r ffigyrau hyn yn “bryderus”.

“Mae ein haelodau yn amlwg yn dioddef o bwysau ariannol hyd yn oed yn waeth na’r llynedd, gyda rhai mewn sefyllfaoedd difrifol,” meddai.

“Mae ein haelodau o dan bwysau i ddarparu, gyda diffyg adnoddau a chynnydd mewn troseddau – yn enwedig troseddau difrifol – sy’n golygu bod y pwysau ar ein gwasanaethau gyda’r uchaf erioed.

“Yr unig beth maen nhw eisiau yw cael eu talu’n deg am y gwaith y maen nhw’n ei wneud.”