Mae nifer y bobol sydd wedi marw o ganlyniad i’r cyffur lladd poen pwerus, fentanyl, wedi cynyddu i tua thraean, yn ôl ffigyrau newydd.

Bu farw 75 o bobol yng Nghymru a Lloegr y llynedd ar ôl cymryd y cyffur, sef cynnydd o 29% ers 2016 pan fu farw 58.

Mae’r ffigyrau wedi cael eu cyhoeddi gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS).

Maen nhw hefyd yn dangos cynnydd am y chweched flwyddyn yn olynol yn nifer y bobol sydd wedi marw o ganlyniad i’r cyffur cocên.

Bu farw 423 y llynedd o’i gymharu â 371 yn 2016, ond does dim sicrwydd os mai crac cocên neu bowdwr oedd achos y marwolaethau hyn.

Yn gyffredinol wedyn, bu 3,756 o farwolaethau o ganlyniad i naill ai cyffuriau anghyfreithlon neu gyfreithlon yng Nghymru a Lloegr yn 2017.

Dyma’r ffigwr ucha’ ers i’r Swyddfa Ystadegau Gwladol gychwyn casglu data yn 1993, er mai dim ond cynnydd bach sydd wedi bod ers 2016 pan oedd y ffigwr yn 3,744.

‘Rhaid cynnig cymorth’

“Y gwir yw bod y rhan fwyaf o farwolaethau o ganlyniad i gyffuriau yn gallu cael eu hatal,” meddai Karen Tyrell o’r elusen Addaction.

“Mae pobol sy’n defnyddio cysgbeiriau (opioids) gan amlaf yn dioddef o broblemau corfforol ac iechyd meddwl.

“Mae’r rhan fwyaf ohonyn nhw’n cael amser anodd iawn, gan fyw bywydau trawmatig yn aml ac rydym ni’n eu methu nhw trwy beidio â rhoi’r gofal gorau posib iddyn nhw.

“Does neb yn dihuno yn y bore ac yn penderfynu mynd yn gaeth i gyffuriau. Mae pawb yn haeddu cymorth, ac rydym yn gwybod bod pob person yn medru gwella gyda’r gefnogaeth iawn.”