Mae tribiwnlys wedi dod i’r casgliad fod yr hawl i gredu mewn annibyniaeth i’r Alban wedi’i warchod gan y gyfraith.
Maen nhw wedi bod yn clywed achos cynghorydd yr SNP, Chris McEleny, sy’n honni bod ei gyflogwr, y Weinyddiaeth Amddiffyn, wedi gwahaniaethu yn ei erbyn ar sail ei ddaliadau gwleidyddol.
Dywedodd y barnwr Frances Eccles ar ôl clywed dadleuon y cynghorydd fod daliadau gwleidyddol yn debyg i gredoau crefyddol a bod modd dadlau, felly, y gellir gwahaniaethu yn erbyn rhywun ar sail y daliadau hynny, yn groes i Ddeddf Cydraddoldeb 2010.
Fe fydd yr achos yn derbyn gwrandawiad llawn maes o law.
Cefndir
Gwraidd yr achos oedd penderfyniad Chris McEleny i fod yn ymgeisydd ar gyfer dirprwy arweinyddiaeth yr SNP yn 2016.
Roedd yn gweithio ar y pryd yn drydanwr ar safle’r Weinyddiaeth Amddiffyn yng Ngogledd Sir Ayr.
Cafodd wybod ar ôl cyhoeddi ei ymgeisyddiaeth ei fod e wedi’i ddiarddel o’i waith, ac fe gafodd ei gyfweld gan swyddogion diogelwch cenedlaethol ar faterion yn ymwneud â’i ddaliadau gwleidyddol.
Fe roddodd y gorau i’w waith, gan honni iddo gael ei dargedu’n annheg ar sail ei gefnogaeth i annibyniaeth ac i’r SNP.
Yn ôl Chris McEleny, mae ei gredoau’n “ddiffuant” ac yn “ddifrifol, ymlynol a phwysig”.
Dyfarniad
Wrth ddod i ddyfarniad, dywedodd y tribiwnlys fod Chris McEleny yn “credu’n sylfaenol yn hawl yr Alban i sofraniaeth genedlaethol”.
Ond fe geisiodd cyfreithiwr ar ran y Weinyddiaeth Amddiffyn ddadlau bod yna wahaniaeth sylfaenol rhwng barn wleidyddol a chredoau athronyddol, ac na ddylid eu cymharu â chreodau crefyddol.
Ni all fod yn gred athronyddol, meddai’r cyfreithiwr, am nad oes digon o gefnogaeth i annibyniaeth i’r Alban y tu allan i’r wlad i gyfiawnhau’r statws.
Ond yn ôl y barnwr, mae cred yn y ffordd y dylid llywodraethu gwlad yn ddigon pwysig i’w hystyried yn “gred athronyddol”.
Mae cyfreithiwr Chris McEleny wedi galw ar Lywodraeth Prydain i gynnal ymchwiliad i’r achos.