Mae Aelodau Seneddol yn ymchwilio i sut y gall pobol dalu mwy o sylw i’w cronfeydd pensiwn, gan ofyn a ydyn nhw’n cael gwerth eu harian.

Bydd Pwyllgor Gwaith a Phensiynau San Steffan yn canolbwyntio ar y diwydiant pensiwn, gan ystyried a oes digon o dryloywder yn y maes.

Byddan nhw’n ystyried a oes yna ddigon yn cael ei wneud i sicrhau bod pobol yn deall am beth a pham maen nhw’n gorfod talu rhai costau.

Ymhlith amcanion eraill, mae’r ymchwiliad hefyd am ystyried a ydy pobol sy’n cyfrannu arian at gynllun pensiwn y gweithle yn cael gwerth eu harian, ac os oes angen i bobol gael eu hannog i graffu’n fanylach ar eu cronfeydd.

Daw hyn wrth i’r pwyllgor gydnabod bod nifer o newidiadau wedi’u cyflwyno i bensiynau yn ystod y blynyddoedd diwethaf, gan gynnwys cynlluniau pensiwn y gweithle a breintiau ymddeoliad sy’n cynnig mwy o opsiynau i bobol.

Y bwriad yw casglu tystiolaeth gan ystod eang o arbenigwyr yn y maes cyn dechrau mis Medi.