Roedd y dyn a laddodd 22 o bobol mewn cyngerdd yn Arena Manceinion fis Mai y llynedd wedi cael ei achub o ryfel cartref yn Libya gan un o longau’r Llynges Brydeinig.

Roedd Salman Abedi yn 19 oed pan gamodd ar yr HMS Enterprise yn Tripoli ym mis Awst 2014, a hynny gyda’i frawd Hashem Abedi a 100 o bobol eraill o wledydd Prydain.

Fe deithiodd y llong wedyn i ynys Melita, lle’r oedd awyren ar gael i gludo’r teithwyr yn ôl i’r Deyrnas Unedig.

Roedd Salman Abedi eisoes yn cael ei wylio gan yr awdurdodau cyn iddo fentro i Libya, ond roedd yr achos wedi’i gau fis cyn iddo gael ei achub.

Yn ôl adolygiad Anderson i’r ymosodiad ym Manceinion, roedd cau’r achos yn seiliedig ar y wybodaeth a oedd ar gael ar y pryd.

Mae Hashem Abedi, brawd yr ymosodwr, ar hyn o bryd mewn carchar yn Libya, ac mae Llywodraeth Prydain wedi gwneud cais i’w estraddodi er mwyn iddo ymddangos gerbron y llys am ei ran yn yr ymosodiad.