Fe fydd mesurau diogelwch mewn lle i ddiogelu galarwyr yn ystod angladd dynes a fu farw ar ôl dod i gysylltiad â’r nwy nerfol Novichok.

Fe fydd angladd Dawn Sturgess, 44, yn cael ei chynnal yn yr amlosgfa yn Salisbury ddydd Llun.

Dywedodd y Parchedig Philip Bromiley, a fydd yn arwain y gwasanaeth, bod trefnwyr yr angladd wedi gweithio’n agos gydag Iechyd Cyhoeddus Lloegr a’r amlosgfa er mwyn sicrhau bod popeth mor ddiogel â phosib.

Mae’n golygu na fydd unrhyw un yn cludo’r arch ac fe fydd yr arch yn yr amlosgfa cyn i’r galarwyr gyrraedd.

Mae Iechyd Cyhoeddus Lloegr wedi gwrthod gwneud sylwadau am yr angladd ond yn pwysleisio bod y risg i’r cyhoedd yn “isel”.

Bu farw Dawn Sturgess ar 8 Gorffennaf ar ôl iddi hi a’i phartner Charlie Rowley gael eu taro’n wael ar ôl dod i gysylltiad â’r nwy nerfol Novichok ar ddiwedd mis Mehefin.

Mae Charlie Rowley bellach wedi gadael yr ysbyty ac mae disgwyl iddo fynd i’r angladd heddiw.

Cafodd y cwpl eu gwenwyno gan Novichok fisoedd yn unig ar ôl i’r cyn-ysbïwr o Rwsia Sergei Skripal a’i ferch Yulia gael eu gwenwyno yn Salisbury ym mis Mawrth.