Mae Dirprwy Brif Weinidog yr Eidal, Matteo Salvini wedi rhybuddio y dylai Prif Weinidog Prydain, Theresa May fod yn barod i gefnu ar drafodaethau Brexit os nad yw’r Undeb Ewropeaidd yn fodlon bod yn hyblyg.

Os nad yw hi’n gwneud hynny, meddai, mae perygl y gallai’r Undeb Ewropeaidd ymddwyn yn dwyllodrus tuag at Brydain.

Dywedodd wrth y Sunday Times, “O ran rhai egwyddorion, does dim angen bod yn hyblyg a ddylech chi ddim mynd am yn ôl.”

Mae’r Blaid Geidwadol yn ceisio rhoi pwysau ar Theresa May i sefyll ei thir a pheidio ag ildio ymhellach i ofynion yr Undeb Ewropeaidd.

Mae’r trafodaethau eisoes wedi gweld nifer o aelodau cabinet Llywodraeth Prydain yn ymddiswyddo, gan gynnwys yr Ysgrifennydd Tramor Boris Johnson a’r Ysgrifennydd Brexit David Davis.

Papur Gwyn Brexit

Mae Theresa May wrthi’n ceisio cefnogaeth nifer o aelodau’r Undeb Ewropeaidd i’w Phapur Gwyn ar gyfer Brexit, ar ôl i’r prif negodwr Michel Barnier wfftio ei gynnwys ym Mrwsel ddydd Iau.

Ddydd Gwener, cytunodd Awstria y dylid cynnwys Brexit ymhlith prif bynciau trafod cyfarfod anffurfiol o arweinwyr Ewropeaidd.

Bydd Brexit ar agenda cyfarfod Cyngor Ewrop yn Fienna ar Fedi 20, a’r gobaith yw y bydd cytundeb wedi’i sicrhau erbyn y cyfarfod canlynol ym Mrwsel fis Hydref.