Mae’r cwmni gwyliau Thomas Cook wedi cyhoeddi na fydd yn parhau i gynnig teithiau i ganolfannau i weld morfilod danheddog.

Mae’r rhain yn cynnwys SeaWorld a Loro Parque, meddai’r cwmni wrth ymateb i wrthwynebiad cwsmeriaid a chyngor gan arbenigwyr ym maes lles anifeiliaid.

Doedd y penderfyniad ddim yn un hawdd, yn ôl perchennog y cwmni, Peter Fankhauser.

“Rydym wedi ymgysylltu’n weithgar ag ystod o arbenigwyr lles anifeiliaid dros y 18 mis diwethaf, ac wedi rhoi ystyriaeth i’r dystiolaeth wyddonol wnaethon nhw ei darparu.

“Rydym hefyd wedi derbyn adborth gan ein cwsmeriaid, a mwy na 90% ohonyn nhw’n dweud wrthym ei fod yn bwysig fod eu cwmni gwyliau’n cymryd lles anifeiliaid o ddifri.”

Fydd y cwmni ddim yn cynnig tocynnau i weld morfilod o haf nesaf ymlaen, er bod lleoliadau fel SeaWorld a Loro Parque ar ynys Tenerife wedi aros ar y rhestr. Roedd 29 o leoliadau eraill wedi’u tynnu oddi ar restr y cwmni 18 mis yn ôl.