Mae merch fach wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad rhwng car a dau gerddwr yng nghanolbarth Lloegr.
Cafodd Heddlu West Midlands eu galw i ardal Smethwick am 10.50 nos Sadwrn.
Dydy’r heddlu ddim wedi cyhoeddi oedran y ferch fach.
Mae gyrrwr y car yn cynorthwyo’r ymchwiliad.
Mae’r heddlu wedi apelio am wybodaeth.