Fe ddylai manylion am bob hysbyseb Facebook a gafodd eu comisiynu gan ymgyrchwyr swyddogol yn ystod y refferendwm ar Brexit gael eu cyhoeddi, yn ôl y Gymdeithas Ddiwygio Etholiadol.

Daw’r alwad hon ar ôl i Facebook gyhoeddi hysbysebion gan yr ymgyrch Vote Leave yn dilyn cais gan bwyllgor seneddol.

Fe gafodd y gyfres o hysbysebion ei chreu gan y cwmni Aggregate IQ, ond dyw hi ddim yn glir pwy yn union a dalodd am rai ohonyn nhw.

Mae’r Gymdeithas Ddiwygio Etholiadol yn dweud felly y dylai hysbysebion y ddwy ochr i’r ddadl yn y refferendwm gael eu gwneud yn gyhoeddus.

Maen nhw hefyd yn galw am yr angen i roi ‘argraffnod’ ar bob hysbyseb ar-lein, fel bod modd i bobol wybod pwy sydd wedi’u hariannu.

“Yr hawl i wybod”

“Mae’n beth iawn bod yr holl bleidleiswyr bellach yn gallu gweld rhai o’r hysbysebion a gafodd eu dangos yn ystod y refferendwm ar Brexit,” meddai Willie Sullivan, Cyfarwyddwr y gymdeithas.

“Ond fe ddylai hyn fod yn safon ar gyfer etholiadau ac unrhyw refferendwm – ac nid dim ond ar gyfer un ochr yn unig.”

“Mae gan bleidleiswyr yr hawl i wybod pwy sy’n talu am adnoddau ymgyrchu a pham maen nhw’n cael eu targedu.

“Mae hyn ynglŷn â thryloywedd a thegwch pan mae’n dod at benderfyniadau gwleidyddol pwysig.

“Fe ddylai’r cyhoedd gael gwybod sut mae’r ddadl yn cael ei dylanwadu arni.”