Bydd swyddogion heddlu sy’n ymchwilio i’r achos o wenwyno yn defnyddio Novichok, yn ymweld â siop bersawr heddiw (dydd Iau, Gorffennaf 26).

Y gred ydi mai o botel bersawr y daeth y gwenwyn, ac felly bydd plismyn yn ymweld â siop Boots yn Amesbury gan obeithio datgelu rhagor am yr achos.

Cafodd Charlie Rowley, 45, a’i bartner, Dawn Sturgess, 44, eu gwenwyno fis diwetha’, a bu farw’r ddynes ddechrau Gorffennaf.

Bellach mae Charlie Rowley wedi cael ei rhyddhau o’r ysbyty, ac wedi datgelu rhagor am y botel bersawr.

Roedd y dyn wedi rhoi’r botel bersawr yn anrheg i’w bartner, ac mewn cyfweliad ag ITV mae wedi datgelu bod y ddynes wedi chwistrellu’r ‘persawr’ drosti.

“Mae gen i atgof ohoni’n chwistrellu’r [cynnwys y botel] dros ei arddyrnau, a’n eu rhwbio â’i gilydd,” meddai. “Dw i’n cymryd mai dyna sut aeth hi’n sâl.

“Ges i’r [‘persawr’] drosta i pan wnes i sarnu peth ar fy nwylo ar ddamwain. Ond, mi olchais hynna i ffwrdd dan y tap.”

Salisbury a’r Rwsiaid

Daw’r ymchwiliad diweddara’ yma yn dilyn achos tebyg o wenwyno Novichok yn Salisbury, lle cafodd cyn-ysbïwr Rwsiaidd a’i ferch eu gwenwyno.

Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi beio Rwsia am yr ymosodiad hwnnw, ac mae heddlu’n credu bod yna gysylltiad ag achos Amesbury.