Mae rhagolygon tywydd yn addo gwres llethol a stormydd dros y dyddiau nesaf.

Mae disgwyl i’r mercwri daro 35C ddydd Iau (Gorffennaf 26) a 37C ddydd Gwener (Gorffennaf 27), gan achosi mellt a tharanau.

Ac yn ôl y Swyddfa Dywydd, mae’n ddigon posib y cawn tymereddau uwch nag erioed o’r blaen – 38.5C yw’r record ar gyfer gwledydd Prydain.

Bydd ‘rhybudd iechyd oren’ mewn grym yn Lloegr oherwydd y gwres, ac mae’r cyhoedd wedi’u cynghori i osgoi ymarfer corff dwys.

Yn wahanol i Gymru a Lloegr, mae’n debyg bod y tywydd yn yr Alban a Gogledd Iwerddon yn gymharol normal.