Mae canghellor yr wrthblaid, John McDonnell wedi galw am ddatrys helynt gwrth-Semitiaeth Llafur mor gyflym â phosib.

Mae camau disgyblu’n cael eu cymryd yn erbyn Aelod Seneddol y blaid oedd wedi cyhuddo Jeremy Corbyn o hiliaeth a gwrth-Semitiaeth.

Mae John McDonnell wedi cyhuddo Margaret Hodge o “gamddeall yn llwyr” god ymddygiad y blaid ar wrth-Semitiaeth yn dilyn beirniadaeth gan y gymuned Iddewig.

Ond mae Margaret Hodge yn gwadu iddi regi yn ystod ffrae danllyd ag arweinydd y blaid, Jeremy Corbyn yr wythnos ddiwethaf.

Mae hi’n wynebu camau tros gyhuddiadau o “ymddwyn yn ymosodol”.

“Roedd Jeremy wedi’i ypsetio’n fawr oherwydd, pan fo gyda chi rywun yn lladd arnoch chi yn y modd yma, wrth gwrs ei fod yn eich ypsetio,” meddai John McDonnell.

Dywed fod Margaret Hodge wedi “camddeall” y cod ymddygiad, a bod modd “datrys hyn mewn modd cyfeillgar a symud ymlaen”.

Pleidlais

Cytunodd Aelodau Seneddol Llafur ddydd Llun y byddan nhw’n cynnal pleidlais ym mis Medi i benderfynu a fyddan nhw’n mabwysiadu’r cod ymddygiad newydd.

Ond mae rhai o’r farn ei fod yn hepgor nifer o ganllawiau sy’n cael eu hawgrymu gan Iddewon.

Ategodd John McDonnell neges y Blaid Lafur eu bod nhw’n gwrthwynebu unrhyw sarhad yn erbyn Iddewon.