Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi rhoi sêl bendith i gynlluniau ffracio yn Sir Gaerhirfryn.

Bellach, mae cwmni siâl Cuadrilla wedi derbyn caniatâd i fwrw ati â’u cynlluniau ar safle yn Preston New Road.

Ond, er hynny, fe fydd yn rhaid iddyn nhw gydymffurfio ag ambell amod – un o’r rheiny yw darparu eu manylion diweddaraf i’r Adran Fusnes ac Egni.

Er bod ffracio fater yn ddadleuol, mae’r Gweinidog Ynni a Thwf Glan, Claire Perry, wedi dweud ei bod yn fodlon â chais Cuadrillas.

Ac mae’r gweinidog yn credu y gallai ffracio gyfrannu at ymdrechion i dorri allyriadau carbon y Deyrnas Unedig.

“Hercian”

Mae ymgyrchwyr gwyrdd wedi gwrthwynebu’r cyhoeddiad – un o’r rheiny yw Cyfarwyddwr Ymgyrchoedd Cyfeillion y Ddaear.

“Does dim angen gorfodi ffracio ar y gymuned yma yn Sir Gaerhirfryn pan mae yna opsiynau eraill sy’n llawer amlycach,” meddai Liz Hutchins

“Mae’r Llywodraeth wedi rhoi’u harian ar y ceffyl anghywir. Mae egni adnewyddadwy wedi dod i’r brig, tra bod ffracio yn hercian o hyd.”