Mae miloedd o ferched sydd ar ruthr i’r gwaith yn torri’r gyfraith wrth roi colur ymlaen a bwyta brecwast tra’n gyrru.

Yn ôl astudiaeth gan gwmni yswiriant ceir Diamond o arferion merched wrth yrru, roedd un o bob pump gafodd eu holi yn dweud eu bod yn darllen e-byst ar eu ffonau symudol tra’n gyrru i’r gwaith.

Roedd traean o’r merched yn brwshio eu gwallt tra’n gyrru,a hyd’noed mwy yn bwyta brecwast neu’n yfed diod.

Roedd un o bob deg yn darllen papur newydd, a chwarter y merched gafodd eu holi yn coluro eu hwynebau yn y car… ac un o bob deg o’r rheiny yn coluro tra bo’r car yn symud.

Heddiw mae The Royal Society for the Prevention of Accidents yn ceisio tynn u sylw I’r arferion peryglus hyn.