Mae chwech o bobol wedi cael eu harestio ar amheuaeth o geisio llofruddio dynes ar ôl ymosodiad arni mewn gwesty ym Manceinion.

Cafodd swyddogion arfog eu hanfon i westy’r Hilton yn Deansgate yng nghanol y ddinas ar ôl i’r ddynes redeg tuag at blismyn toc wedi 11.10yb ddydd Llun, meddai Heddlu Manceinion.

Roedd hi wedi cael anaf i’w gwddf.

Cafodd pedwar dyn, 20, 24 a dau yn 26 oed, a dwy ddynes 17 a 20 oed, eu harestio.

Nid yw’r heddlu’n credu bod yr ymosodiad yn gysylltiedig â brawychiaeth.