Mae dyn 43 oed o dde Llundain wedi’i gyhuddo o droseddau brawychol, yn ôl Heddlu Scotland Yard.

Cafodd Ravi Mendis ei gyhuddo fore heddiw o ymddygiad oedd yn paratoi at weithredoedd brawychol.

Cafodd ei arestio ddydd Gwener ar amheuaeth o fod ag arf yn ei feddiant ac o fygwth lladd.

Bydd yn mynd gerbron Llys Ynadon Westminster ddydd Llun.