Mae’r heddlu’n chwilio am dri dyn mewn perthynas ag ymosodiad asid honedig ar fachgen tair oed yng Nghaerwrangon.

Cafodd y bachgen ei anafu’n ddifrifol yn y digwyddiad, ac mae’r heddlu’n credu iddo gael ei dargedu’n fwriadol mewn parc manwerthu.

Cafodd ei gludo i’r ysbyty â llosgiadau i’w fraich a’i wyneb.

Mae dyn 39 oed wedi’i arestio yn Wolverhampton ar amheuaeth o gynllwynio i achosi niwed difrifol bwriadol, ac mae’n cael ei holi yn y ddalfa.

Mae’r ymchwiliad yn parhau.