Mae Ysgrifennydd Brexit San Steffan, Dominic Raab wedi rhybuddio y gallai Prydain ddewis peidio talu bil Brexit oni bai ei bod yn sicrhau cytundeb masnach.

Rhybuddiodd fod angen sicrhau perthynas newydd â’r Undeb Ewropeaidd fel rhan o’r broses o gychwyn Erthygl 50 i adael y sefydliad.

Ac fe ddywedodd ei fod yn parhau i geisio darbwyllo aelodau Cabinet Llywodraeth Prydain mai cytundeb Chequers y Prif Weinidog Theresa May yw’r ffordd orau ymlaen i geisio’r cytundeb gorau posib.

Mae ei farn yn groes i’w ragflaenydd, David Davis, oedd wedi ceisio annog Theresa May i fabwysiadu strategaeth negodi newydd.

Trafodaethau

Mewn cyfweliad â’r Sunday Telegraph, dywedodd Dominic Raab: “Wrth i ni drafod y cytundeb ymadael, mae gofyn yn ôl Erthygl 50 fod yna fframwaith i’r dyfodol ar gyfer symud ymlaen â’n perthynas newydd, felly mae yna gyswllt rhwng y ddau beth.

“Allwch chi ddim cael un ochr yn cadw at y fargen a’r llall ddim, neu’n mynd yn araf, neu’n methu ag ymrwymo i’w ochr.

“Felly dw i’n credu bod angen i ni sicrhau fod yna amodoldeb rhwng y ddau beth.”