Mae dau ddyn wedi ymddangos gerbron llys heddiw (dydd Sadwrn, Gorffennaf 21) wedi i’r awdurdodau ddod o hyd i 1.6 tunnell o’r cyffur cocên mewn cwch yn y Mor Udd.

Mae’r ddau Iseldirwr, Maarten Peter Pieterse, 59, ac Emile Adriaan Jeroen Schoemaker, 44, wedi’u cyhuddo o drosedd yn ymwneud â mewnforio cyffur dosbarth A.

Fe gafodd y cwch, SY Marcia, ei hebrwng o’r dyfroedd i’r de-orllewin o Gernyw ddydd Mercher diwethaf (Gorffennaf 18), i borthladd Newlyn.

Mae’r Asiantaeth Drosedd Genedlaethol (NCA) wedi disgrifio’r llwyth fel un “sylweddol”.