Mae’r Brexitiwr caled, Jacob Rees-Mogg, yn dweud y bydd Prydain yn gadael yr Undeb Ewropeaidd heb gytundeb masnach.

Wrth gyflwyno sesiwn ffonio-ac-ateb ar orsaf LBC fore Sadwrn, mae’r Aelod Seneddol Toriaidd yn dweud mai mabwysiadu telerau Sefydliad Masnach y Byd (WTO) ydi’r canlyniad mwya’ posib bellach – ac nad oes dim i’w ofni yn hynny.

Fe ddaw ei sylwadau wrth i Teresa May barhau i ymladd ei chornel tros y ddêl y cytunwyd arni yn Chequers wythnos yn ol. Mae’r Undeb Ewropeaidd wedi dweud nad ydi’r cynllun yn ymarferol.