Fe gafodd dynes ei tharo â llechen oddi ar do adeilad cyn cael ei threisio yn ystod oriau mân bore heddiw, ac mae Heddlu Greater Manchester yn chwilio’n ddyfal am y dyn oedd yn gyfrifol.

Roedd y ddynes, yn ei 20au, yn cerdded Westend Street yn Oldham tua 4.40yb heddiw (dydd Sadwrn, Gorffennaf 21) pan ddaeth dyn ati.

Fe afaelodd ynddi a’i thynnu ar gae pêl-droed synthetig gerllaw, cyn ymosod arni a’i threisio.

Fe gafodd y gwasanaethau brys eu galw wedi i’r wraig fynd i adeilad cyfagos a gofyn am help. Fe gafodd ei chludo i ysbyty i dderbyn triniaeth.

Mae’r ymosodwr wedi’i ddisgrifio fel dyn croenwyn, yn ei ugeiniau cynnar, o gorffolaeth denau gyda gwallt brown golau ac acen Manceinion. Roedd yn gwisgo dillad tywydd, a chwfl dros ei ben.