Mae’r incwm mae Brenhines Lloegr yn ei gael o’i phortffolio o dir, eiddo ac asedau preifat wedi cynyddu £1 miliwn.

Yn ôl ei chyfrifon diweddaraf bu cynnydd o 4.9% yn y flwyddyn ariannol 2017-18, gyda’r incwm yn codi o £19.2 miliwn i £20.1 miliwn.

‘Duchy of Lancaster’ yw enw portffolio preifat y Frenhines o dir, eiddo ac asedau.

Mae yn “geidwad” ar filoedd o aceri o dir yng Nghymru a Lloegr, gan gynnwys adeiladau hanesyddol, tir ffermio o safon uchel ac ardaloedd o harddwch naturiol.

Dywedodd Prif Weithredwr y Duchy of Lancaster: “Bu yn flwyddyn bositif arall i’r Duchy gyda thwf cryf ym mron pob un o’n meysydd masnach.”

Mae gwerth asedau’r Duchy wedi cynyddu 2.9% o £518.7 miliwn i £533.8 miliwn.

Dim talu treth

Nid yw’r Duchy of Lancaster yn gorfod talu treth gorfforaethol, ond mae’r Frenhines yn gwirfoddoli i dalu treth incwm ar y refeniw mae hi’n ei dderbyn gan y Duchy.

Daeth i’r fei fis diwethaf bod costau byw’r Frenhines wedi cynyddu 13% wrth iddi dalu am waith atgyweirio ar Balas Buckingham.

Mae Brenhines Lloegr yn cael £45.7 miliwn o arian trethdalwyr yn flynyddol.