Fe fydd fersiwn newydd o far siocled Cadbury’s Dairy Milk, yn cynnwys traean yn llai o siwgwr, ar gael i’w brynu y flwyddyn nesaf.

Dyma un cam gan y cwmni i ymateb i argyfwng gor-dewdra.

Mae perchennog yr enw Cadbury’s, Mondelez International, wedi disgrifio’r bar newydd fel y cynnyrch “mwyaf arloesol yn hanes y brand”. Mae’r cwmni hefyd wedi cyhoeddi cynlluniau tebyg i leihau siwgr mewn siocledi poblogaidd eraill fel Oreo, Maynards Bassetts Wine Gums, a Jelly Babies.

Bydd y bar Dairy Milk newydd yn ymddangos ochr yn ochr â’r gwreiddiol ar y silffoedd, ond yn cynnig mwy o ddewis i brynwyr ac yn helpu i reoli faint o siwgr y maent yn ei fwyta, meddai’r cwmni.